Ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i egwyddorion cyffredinol y Bil Casglu a Rheoli Trethi (Cymru)

 

Sylwadau gan

Cyfoeth Naturiol Cymru

     

 

 

 

 

 

1.0  Cyflwyniad

1.1      Rydym yn croesawu'r cyfle i roi ein sylwadau ac yn cydnabod bod trosglwyddo pwerau codi trethi i Lywodraeth Cymru yn gam sylweddol o ran datganoli yng Nghymru.

 

1.2      Mae'r egwyddorion a'r broses sy'n gysylltiedig â chasglu a rheoli trethi yn dechnegol iawn, ac maent y tu hwnt i'n harbenigedd presennol. Fodd bynnag, rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod dylunio a gweithredu Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru yn effeithiol ac yn fwyaf addas i anghenion Cymru.  Mae ein hymateb i'r cais hwn am dystiolaeth felly'n canolbwyntio ar egwyddorion cyffredinol casglu a rheoli trethi yng nghyswllt Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru a'r goblygiadau posibl i Gyfoeth Naturiol Cymru.

 

1.3      Mae gennym gynrychiolaeth ar Fwrdd Prosiect Treth Tirlenwi Cymru a Grŵp Arbenigwyr Technegol Treth Dirlenwi Llywodraeth Cymru. Drwy'r grwpiau hyn, rydym wedi bod yn edrych ar rôl Cyfoeth Naturiol Cymru a'r cyfleoedd posibl yng nghyswllt Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru.

 

2.    Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru

 

2.1      Diben Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru'n cael eu cynnal, eu gwella a'u defnyddio'n gynaliadwy, nawr ac yn y dyfodol.

 

2.2      Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio fel rheoleiddiwr, partner a chynghorydd i fusnesau, sefydliadau anllywodraethol, awdurdodau lleol a chymunedau er mwyn helpu i roi polisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd ar waith.

 

2.3      Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoleiddio'r diwydiant gwastraff ac mae'n brif gynghorydd i Lywodraeth Cymru, yn gynghorydd i ddiwydiant a'r sector cyhoeddus a'r sector gwirfoddol ehangach, ac yn gyfathrebwr ynghylch materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol.  Rydym yn gweithredu ar sail ecosystemau i hyrwyddo rheoli adnoddau naturiol mewn ffordd integredig sy'n cynnig buddiannau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol i bobl Cymru.

 

2.4      Hefyd, Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r awdurdod monitro dynodedig ar gyfer Rheoliadau Targedau Ailgylchu, Paratoi i Ailddefnyddio a Chompostio (Monitro a Chosbau) (Cymru) 2011 a Rheoliadau Cynllun Lwfansau Tirlenwi (Cymru) 2004.

 

3.    Egwyddorion cyffredinol a'r angen am y ddeddfwriaeth

 

3.1      Rydym yn cefnogi cyflwyno'r Bil hwn ac yn cydnabod ei fod yn angenrheidiol ar gyfer sefydlu'r fframwaith cyfreithiol sy'n ofynnol ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru yn y dyfodol.

 

3.2      Cadarnhaodd y Papur Gwyn ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cael ei ystyried yn bartner posibl i weithio gydag Awdurdod Cyllid Cymru i gyflawni swyddogaethau casglu a rheoli trethi yng nghyswllt y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae ein gallu i ymgymryd â rôl o'r fath yn ofynnol ar allu Awdurdod Cyllid Cymru i ddirprwyo ei swyddogaethau, ac mae Adran 13 o'r Bil yn darparu hynny.

 

3.3      Treth Dirlenwi'r DU, a gyflwynwyd yn 1996, oedd treth amgylcheddol gyntaf y DU, ac mae'n ffordd allweddol o alluogi'r DU i gyrraedd ei thargedau ar gyfer tirlenwi gwastraff trefol bioddiraddadwy, a bennwyd yn y Gyfarwyddeb Tirlenwi. Treth ar waredu gwastraff ar safleoedd tirlenwi yw treth dirlenwi, ac mae'n cynnig cymhelliant cryf i gynhyrchwyr gwastraff gynhyrchu llai o wastraff, adennill mwy o werth o wastraff, er enghraifft drwy ailgylchu neu gompostio, a defnyddio dulliau mwy ecogyfeillgar o reoli gwastraff. Drwy gynyddu cost tirlenwi, gorfodir technolegau trin gwastraff mwy datblygedig sydd â ffioedd clwydi uwch i fod yn fwy deniadol yn ariannol. Mae effeithiolrwydd y dreth hon o ran newid ymddygiad wedi cael ei ddangos yn y lleihad mewn gwastraff a waredir ar safleoedd tirlenwi yng Nghymru. Ers 2000, mae swm y gwastraff a waredir ar safleoedd tirlenwi yng Nghymru wedi lleihau o 4.5 miliwn i 2.1 miliwn o dunelli yn 2013.   

 

3.4      Mae'r ffaith bod ardaloedd trefol mawr yn agos ar y ddwy ochr i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn golygu y gellid gwrthdroi'r llif posibl o wastraff yn hawdd, dim ond drwy wneud newidiadau cymharol fach mewn cyfraddau gwahaniaethol.  Mae'n bwysig felly bod Treth Gwarediadau Tirlenwi Cymru yn cael ei chyflwyno, a chredwn fod buddiannau sylweddol posibl i'w cael o sicrhau cysondeb parhaus rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraethau'r DU a'r Alban.

 

4.    Gweithredu'r Bil, a'r goblygiadau ariannol

 

4.1      Bydd darpariaethau'r Bil, ac yn enwedig ddirprwyo unrhyw swyddogaethau o Awdurdod Cyllid Cymru i Gyfoeth Naturiol Cymru, yn arwain at oblygiad ariannol.  Roeddem wedi nodi yn ein hymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y papur gwyn “Casglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru” nad oeddem yn dymuno cael ein hystyried ar gyfer rôl casglu a rheoli ar hyn o bryd, ond gan gydnabod bod synergedd posibl rhwng ein rôl reoleiddiol bresennol a chyfundrefn y dreth gwarediadau tirlenwi sydd ar ddod, gwnaethom ymrwymo i ystyried cyfleoedd i sicrhau cyfundrefn cydymffurfio a gorfodi fwy effeithiol yng Nghymru, gan weithio ar y sail y byddai disgwyl i unrhyw rôl ychwanegol gael ei hariannu'n llawn.

 

4.2      Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried y tair elfen ganlynol yng nghyswllt ein rôl bosibl a chasglu a rheoli'r dreth gwarediadau tirlenwi yng Nghymru yn y dyfodol:

·         cyfleoedd i rannu gwybodaeth,

·         cyfleoedd polisi,

·         cyfrifoldebau cydymffurfio a gorfodi

 

4.3      Ar ôl i Gynulliad Cenedlaethol Cymru basio'r Bil hwn, rydym yn rhagweld y bydd trafodaethau mwy dwys yn dechrau â Llywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod y bydd unrhyw oblygiadau ariannol posibl o fod yn rhan o rôl cydymffurfio a gorfodi yn ddibynnol ar y canlynol:

                                 i.      graddfa a chwmpas unrhyw rôl o ran cyflawni swyddogaethau a'r safonau gwasanaeth gofynnol a ddisgwylir,

                                ii.      datblygiad deddfwriaeth a phenderfyniadau cysylltiedig ynghylch polisi yn y dyfodol.

 

 

4.4      Rydym ar ddeall y byddai'r rheoliadau sydd ar ddod hefyd yn destun Asesiad Effaith Rheoleiddiol pellach. Byddai'r broses hon yn mireinio amcangyfrifon o gostau ac yn rhoi rhagor o sicrwydd i ni ynghylch unrhyw gostau tebygol.

 

4.5      Croesawn y cyfle i roi tystiolaeth lafar os bydd y Pwyllgor Cyllid yn ein gwahodd i wneud hynny.

 

I gael rhagor o wybodaeth

 

Cysylltwch ag: Isobel Moore, Pennaeth Busnes, Rheoleiddio ac Economeg

Cyfoeth Naturiol Cymru

Tŷ Cambria, 29 Heol Casnewydd

Caerdydd, CF24 0TP

XXXXX XXXXXX

XXXXXX@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk